Rachel AnneEVANSYn dawel yng Nghartref Maes Llewelyn, Castell Newydd Emlyn ddydd Gwener 18fed Chwefror, Rachel Anne, mam annwyl Carys, Meurig, Meirion a Morlais, mam yng nghyfraith, mamgu a hen famgu hoffus. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Crist, Lammas Street, Caerfyrddin ddydd Gwener 25ain Chwefror am 11 o'r gloch a chladdedigaeth cyhoeddus i ddilyn ym Mynwent Tref Caerfyrddin. Blodau'r teulu yn unig. Rhoddion, os dymunir, i Gartref Gofal Maesllewelyn a Dementia (sieciau'n daladwy i D L James Memorial Account) trwy law'r Trefnwr Angladdau, Delme James, Pencaer, Bryn Iwan, Cynwyl Elfed, Caerfyrddin SA33 6TE. Ffôn 01994 484540.
Keep me informed of updates